Mae aelodau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi pleidleisio dros gau Gorsaf Dân y Blaenau ym Mlaenau Gwent.

Maen nhw hefyd wedi pleidleisio dros gael gwared ar injan dân o orsaf Cwmbrân yn y cyfarfod ym mhencadlys y gwasanaeth tân yn Llantrisant.

Meddai’r Gwasanaeth Tân fod y penderfyniadau a wnaed heddiw yn dilyn “ymgynghoriad cyhoeddus estynedig”.

Dywedodd Huw Jakeway, prif swyddog tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y byddan nhw’n gweithio’n agos â’r staff yn y ddwy orsaf i archwilio pob cyfle am “gyflogaeth amgen briodol.”

Roedd ymgyrchwyr oedd yn erbyn cau Gorsaf Dân y Blaenau yn cynnwys teuluoedd Stephen Griffin a Kevin Lane. Bu farw’r ddau tra’n gweithio fel diffoddwyr tân yn yr orsaf yn 1996.

Mae cofeb i’r ddau yn parhau i fod yn yr orsaf dân.

Dywedodd Huw Jakeway ei bod hi’n “bwysig i ni gofio Diffoddwyr Tân Griffin a Lane, yn ogystal â’u teuluoedd perthnasol a byddaf yn sicrhau ein bod yn ystyried eu hanghenion hwy o fewn y newid hwn.”

Ychwanegodd Huw Jakeway: “Mae proses yr Adolygiad Cwmpasiad Tân yn ganlyniad o sut mae’r gwasanaeth wedi newid dros y 70 mlynedd ddiwethaf ac fel gwasanaeth, mae’n rhaid i ni sicrhau fod pobl De Cymru’n parhau i dderbyn gwasanaeth sy’n darparu gwerth am arian.

“Edrychodd y gwasanaeth ar nifer o ffyrdd yr ydym yn darparu ein gwasanaeth i chi ac mae gennym gyfrifoldeb i weithio’n galed i gadw pobl yn ddiogel ac, ar yr un pryd, gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym.

“Mae cau Gorsaf Dân ac Achub y Blaenau a dileu’r ail beiriant pwmpio o Orsaf Dân Cwmbrân yn benderfyniad emosiynol i’n staff, ein cymunedau a’n haelodau, a gallaf eich sicrhau ni chymerwyd y penderfyniad hwn yn ysgafn.”