Guto Bebb
Mae un o’r ASau Ceidwadol Cymreig sy’n cyfarfod a’r Prif Weinidog David Cameron yn Chequers ar hyn o bryd, wedi dweud nad oes “neb yn llwyr ymwybodol” o beth sydd wedi cael ei addo yn bwerau ychwanegol i’r Alban.
Cyn y cyfarfod ym mhlasty swyddogol David Cameron y tu allan i Lundain, dywedodd Guto Bebb, AS Ceidwadol Aberconwy, fod datganiad Gordon Brown ar y pwerau yn amwys, a bod angen esboniad o sut fydd y newidiadau yn effeithio Cymru.
Mae Ceidwadwyr blaenllaw yn cwrdd i drafod cyfansoddiad Prydain yn dilyn refferendwm yr Alban yn ogystal â chynlluniau fyddai’n gweld ASau o Loegr yn unig yn pleidleisio ar faterion yn ymwneud a Lloegr.
Mae’r cyn-weinidog Owen Paterson eisoes wedi dweud bod ASau yn cael eu cadw yn y tywyllwch ynglŷn â’r cynlluniau.
Addewidion
“Cafwyd nifer o addewidion ac amserlen gan Gordon Brown ond yn anffodus cafwyd dim manylion o’r amserlen,” meddai Guto Bebb ar raglen Dylan Jones ar Radio Cymru bore ma.
“Fe ddywedodd Gordon Brown ei fod yn dymuno gweld yr hyn oedd o’n ei ddisgrifio fel ‘a modern form of home rule’.
“’Sgen i ddim affliw o syniad beth mae ‘a modern form of home rule’ yn ei olygu…ac felly mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n ymwybodol o be sydd wedi cael ei addo – achos dydw i ddim yn sicr beth sydd wedi cael ei addo, a dwi ddim yn credu fod yna neb arall sy’n trafod y mater yn llwyr ymwybodol.
“Mae’n gwbl briodol bod y manylion hynny rŵan yn cael eu gweithio allan ac i ni gael clywed sut y bydden nhw’n effeithio ar Gymru a Gogledd Iwerddon a Lloegr.”
Fformiwla Barnett
Un o’r problemau mae Guto Bebb yn eu rhagweld yw bod fformiwla Barnett, fel mae’n sefyll, yn golygu bod penderfyniad i gynyddu neu leihau gwariant yn Lloegr yn gallu cael effaith ar gyllideb Cymru:
“Os oes yna unrhyw gam i sicrhau nad oes yna lais o’r Alban yn cael eu clywed ar faterion sydd wedi cael eu datganoli i’r Alban, mae’n rhaid newid y ffordd mae fformiwla Barnett yn cael ei chyfrifo.
“Dw i’n poeni fod y blaid Lafur yn amddiffyn fformiwla Barnett, achos dwi’n credu fod pawb yng Nghymru’n ymwybodol fod yna £300 miliwn yn cael ei golli oherwydd bod y fformiwla yn gweithredu ar sail poblogaeth yn hytrach nag ar sail angen.
“Y sefyllfa ar hyn o bryd ydy bod y glymblaid wedi datgan eu bod am fynd i’r afael a’r pryderon hyn yn dilyn cael y cyllid ariannol i drefn, ond yn sgil yr addewidion sydd wedi cael eu gwneud i’r Alban mae’n allweddol i wneud rhywbeth am y ffaith fod Cymru’n cael ei than-gyllido.
“Dydi’r blaid Lafur ddim wedi gweithredu pan oedden nhw mewn llywodraeth, ac mae’n gwbl allweddol fod y glymblaid yma yn gwneud hynny os ydan ni’n gwarantu fformiwla Barnett i’r Alban.”