Carwyn Jones
Mae’n rhaid ymestyn “hunanlywodraeth” i Gymru a Gogledd Iwerddon yn sgil addewid San Steffan i ddatganoli pwerau pellach i’r Alban, meddai Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones heddiw.
Wrth iddo annerch cynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion, dywedodd Carwyn Jones bod angen i addewid David Cameron, Nick Clegg ac Ed Miliband i roi pwerau trethu a gwario pellach i’r Alban gael eu cynnig i Gymru a Gogledd Iwerddon hefyd.
Rhybuddiodd y bydd safbwyntiau cenedlaetholgar cefnogwyr Plaid Genedlaethol yr Alban, UKIP a Phlaid Cymru yn “caledu” os fydd San Steffan yn methu newid system lywodraethu’r DU.
Meddai Carwyn Jones: “Mae’r achosion a’r pleidiau hyn yn ennill cefnogaeth gan fod gormod o bobl yn cael llond bol o’r hyn maen nhw’n ei weld fel y status quo. Mae gormod o bobl yn meddwl na all pethau, a gwleidyddiaeth yn benodol, fynd ddim gwaeth.
“Bydd y farn honno yn caledu os ydym ni, fel plaid, yn methu anrhydeddu ein haddewid i ailadeiladu’r DU mewn ffordd sy’n sicrhau bod hunaniaethau cryf ein cenhedloedd yn cael ei gydnabod o fewn cytundeb o undod.”
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru hefyd alw am gonfensiwn cyfansoddiadol ar ddatganoli, gan ddweud na fydd ymateb llawn “panig” David Cameron yn newid meddwl pleidleiswyr.
Yn y cyfamser, diystyrodd llefarydd y Blaid Lafur dros Gymru, Owen Smith, gynigion David Cameron i gyfyngu ar hawliau pleidleisio Aelodau Seneddol yr Alban yn Nhŷ’r Cyffredin fel “tric rhad” er mwyn tawelu meinciau cefn y Torïaid.
‘Anfaddeuol amddifadu Cymru o’r un cyfle’
Wrth ymateb i araith Carwyn Jones, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
“Mae prif bleidiau San Steffan wedi addo pwerau ychwanegol i Lywodraeth yr Alban. Fe fyddai’n anfaddeuol iddyn nhw amddifadu Cymru o’r un cyfle. Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi cyfaddef y dylai Cymru gael yr hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban.
“Gyda datganoli pellach o fewn Lloegr, fe all cyfansoddiad Prydain newid i weld Cymru ar yr un lefel ag ardaloedd o Loegr yn hytrach na fel cenedl gyfan. Byddai hyn yn annerbyniol a dyma pam fod Plaid Cymru wedi ei gwneud yn glir fod Mesur Cymru, sy’n gwneud ei ffodd trwy Senedd San Steffan, yn cynnig ffordd i ddarparu’r cyfrifoldebau ariannol ehangach sydd wedi eu haddo i Gymru.
“Byddai angen deddfau ychwanegol er mwyn adlewyrchu pa bynnag bwerau sy’n cael eu rhoi i’r Alban.
“Y peth pwysig i Gymru yw bod llywodraethau’r dyfodol yn cael ystod eang o ddewisiadau er mwyn gwella bywydau pobol, buddsoddi mewn isadeiledd ac ail-adeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus.”