Llun gwneud o'r dyn sy'n cael ei amau o'r lladrad
Mae’r heddlu yn apelio am lygad dystion yn dilyn lladrad arfog honedig mewn siop Spar ym Metws, Casnewydd ddoe.

Dywed yr heddlu fod y dyn wedi cerdded i mewn i’r siop am 7:00yb dydd Sul, 21 Medi, a gorfodi dau aelod o staff i roi arian o’r til iddo. Credir fod gan y dyn arf yn ei feddiant.

Llwyddodd i ddianc gyda’r arian ac ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Dywedodd swyddogion o Heddlu De Cymru fod y dyn rhwng 20 a 30 oed, tua 5’8” o daldra a bod ganddo wallt brown byr.

Roedd yn gwisgo siaced Adidas ddu gyda thair streipen las ar yr ochr a throwsus tywyll ar adeg y digwyddiad ond credir ei fod wedi newid i wisgo siaced gyda llewys glas a phatrwm tywyll yn ddiweddarach.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.