Hannah Witheridge
Mae’r heddlu yng Ngwlad Thai am gynnal profion DNA ar ragor o bobl ar yr ynys lle cafodd dau ymwelydd o Brydain eu llofruddio’r wythnos diwethaf.

Daethpwyd o hyd i gyrff Hannah Witheridge, 23, a David Miller, 24, ar ynys Koh Tao ar 15 Medi.

Mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw am gynnal profion ar bob dyn ar Koh Tao, gan gynnwys pysgotwyr a gyrwyr cychod a allai fod wedi ymweld â’r ynys ar adeg y llofruddiaethau.

Mae profion DNA cychwynnol gafodd eu cynnal ar gyrff Hannah Witheridge a David Miller bron yn sicr yn dod o ddau ddyn Asiaidd.

Fodd bynnag, mae’r heddlu’n credu bod o leiaf tri o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymosodiad.

Yn y cyfamser, mae tad David Miller wedi dweud wrth y Daily Mail heddiw ei fod yn credu bod ei fab wedi camu i mewn i helpu Hannah Witheridge pan gafodd y ddau eu lladd.