Mae rhai o staff Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gorymdeithio yn y dre y bore ma dros bensiynau.
Mae’r orymdaith yn rhan o streic bedwar diwrnod gan staff gweinyddol, swyddogion diogelwch a chynorthwywyr llyfrgell sy’n aelodau o undebau Unsain, Unite, UCU a Prospect.
Dywed swyddogion yr undeb yn dweud nad oes ganddyn nhw ddewis ond gweithredu ar ôl methu â gwyrdroi penderfyniad awdurdodau’r brifysgol i newid amodau pensiwn gweithwyr y brifysgol. Mae’r ymgyrchwyr wedi bod yn gorymdeithio heddiw o orsaf drên Aberystwyth i gampws y brifysgol ar Riw Penglais.
Mae’r brifysgol wedi datgan ei siom dros y streic, sy’n digwydd ar ddechrau Wythnos y Glas, gan ddweud ei bod yn “ceisio taro busnes craidd y brifysgol.”
“Wrth barchu yn llawn hawl unigolyn i leisio barn, mae targedu’r penwythnos lle mae’r Brifysgol yn croesawu ei myfyrwyr newydd yn mynd yn erbyn yr holl waith caled a wnaed gan gydweithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i adeiladu perthynas a denu myfyrwyr i Aberystwyth,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.