Fe fydd dyn 47 oed yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dynes yn yr Wyddgrug.
Cafwyd hyd i gorff Karen Catherall, 45 oed, yn ei chartref yn Gwernaffield, ger yr Wyddgrug am 3.34 fore Sul.
Roedd archwiliad post mortem wedi dangos bod ganddi anafiadau i’w phen a’i bod wedi cael ei thagu.
Cafodd cwest i’w marwolaeth ei agor a’i ohirio ddydd Llun.
Fe fydd Darren John Jeffreys o Bwll Glas, yr Wyddgrug, yn mynd gerbron ynadon yn Wrecsam y bore ma.