Kath a Stacey nôl yn y Cwm (llun: S4C)
I ddathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn 40 eleni, mae un o gymeriadau mwyaf eiconig y gyfres yn dychwelyd i Gwmderi.

Yn gyfarwydd i lawer fel un o gymeriadau mwyaf poblogaidd Pobol y Cwm, yn 2007 fe adawodd Kath Jones yr opera sebon wedi pymtheg mlynedd. Nawr, mewn stori arbennig iawn, mae’r cymeriad yn ei hôl.

Bu Siw Hughes yn chwarae rhan Kath Jones ar Pobol y Cwm o 1993 tan iddi adael yn 2007.

Meddai Siw Hughes ei bod hi’n “gyffrous” camu nôl i ‘sgidiau Kath Jones.

Meddai Siw Hughes: “Mi fedrai ddweud â’m llaw ar fy nghalon bod Kath yn ôl o Sbaen ar gyfer angladd, ond fedra’i ddim dweud mwy na hynna.

“Mae’n braf iawn bod yn ôl. Mae’n gyffrous iawn camu nôl i ’sgidiau Kath Jones. Mae gen i le mawr yn fy nghalon i Kath; mae hi wedi bod yn garedig i mi, ac i fy ngyrfa, ac mae hi wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i mi mae’n rhaid dweud.”

Yn ogystal, bydd Shelley Rees oedd yn actio Stacey Jones, merch Kath, yn y gyfres hefyd yn dychwelyd ar gyfer y pen-blwydd.

Ychwanegodd Siw Hughes: “Y peth gorau am fod yn ôl yw cael gweithio efo Shelley Rees, Arwyn Davies a Maria Pride eto – yr hen deulu yn ôl efo’i gilydd!

“’Da ni’n cael ein hatgoffa faint o sbort ydy o, ac yn bownsio oddi ar ein gilydd fel actorion, felly gobeithio y bydd hynny i’w weld ar y sgrin.”

Ond i angladd pwy fydd Kath Jones yn dychwelyd i’r Cwm? Rhowch dro ar ddyfalu yn y blwch sylwadau!