Mae rheolwr yr Elyrch Garry Monk wedi ennill gwobr rheolwr y mis ar ôl y dechreuad delfrydol i’r tymor.
Cafwyd tair buddugoliaeth hyd yn hyn, i ffwrdd o gartref yn erbyn Manchester United ac adref yn erbyn Burnley a West Brom. Ar y funud maen Abertawe yn ail yn y gynghrair y tu ôl i Chelsea a bydd y ddau dîm yn cwrdd yfory. Hefyd cafwyd buddugoliaeth yng Nghwpan y Gynghrair yn erbyn Rotherham Unuted ar y Liberty.
‘‘Mae’n fraint ac yn anrhydedd i ennill y wobr. Mae’n dangos ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn,’’ meddai Monk a bwysleisiodd bod y wobr yn deyrnged i’r staff i gyd.
Yr oedd Jose Mourinho o Chelsea, Mark Hughes o Stoke a rheolwr Aston Villa, Paul Lambert ar y rhestr fer ar gyfer y wobr.
Fe wnaeth Monk arwyddo cytundeb o dair blynedd gyda’r Elyrch ym mis Mai ar ôl sicrhau bod y clwb yn sefyll yn yr Uwch Gynghrair wedi i Michael Laudrup gael ei ddisywddo.