Mae disgwyl i'r gêm gael ei chynnal yn Stadiwm Ramat Gan yn Tel Aviv (llun: NYC2TLV)
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyfaddef y gallai trip Cymru i Israel ym mis Mawrth fod yn “broblem” posib i gefnogwyr.
Cafodd Israel eu dewis yn yr un grŵp â Chymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2016, ac mae disgwyl i dîm Chris Coleman deithio yno ar gyfer gêm ar 28 Mawrth 2015.
Mae UEFA eisoes wedi gorfod gohirio gêm rhwng Gwlad Belg ac Israel a oedd i fod i gael ei chwarae yno’r mis hwn, a hynny oherwydd y problemau diogelwch yn y Dwyrain Canol.
Fe fydd y gêm honno nawr yn cael ei hailchwarae ar 31 Mawrth, tridiau ar ôl ymweliad Cymru.
Ond mae Pennaeth Cyfathrebu FA Cymru yn cyfaddef nad oes modd iddyn nhw wybod beth fydd y sefyllfa ymhen chwe mis.
“Un broblem falle wnawn ni wynebu yn y grŵp yma ydi Israel wrth gwrs,” meddai Ian Gwyn Hughes.
“Rydan ni’n gweld bod eu gêm nhw rŵan yn erbyn Gwlad Belg wedi’i gohirio i gael ei chwarae ym mis Mawrth.
“Pwy sydd i wybod beth fydd y sefyllfa wleidyddol erbyn hynny. Felly mae hynny’n rhywbeth fydd yn rhaid i ni gael golwg arno fo.”
Trafferth Andorra
Mae Cymru eisoes wedi wynebu ansicrwydd ar ddechrau’r ymgyrch hon, wrth i gwestiynau godi am safon cae plastig Andorra llai na phythefnos cyn y gêm agoriadol.
Fe enillodd Cymru o 2-1 yno’n gynharach yn yr wythnos, gyda’r chwaraewyr a’r rheolwr yn feirniadol iawn o’r cae yn dilyn y gêm.
Dim ond chwe diwrnod cyn y gêm y cafodd cefnogwyr wybod yn bendant y byddai’n cael ei chwarae yn Andorra, a hynny ar ôl i FIFA gynnal archwiliad hwyr o’r cae, gan greu ansicrwydd i gefnogwyr oedd wedi bwriadu teithio yno o Barcelona a Toulouse.
Dim ond ar 27 Awst y cafodd Gwlad Belg wybod fod eu gêm nhw yn Israel wedi’i ohirio, 13 diwrnod cyn y gêm – ac felly mae’n bosib y gallai cefnogwyr Cymru wynebu’r un trafferthion wrth gynllunio’u teithiau nhw i Israel hefyd.
Symud y gêm?
Mae Israel wedi gorfod gohirio gemau cartref yn y gorffennol pan fu’r sefyllfa ddiogelwch yn y wlad yn beryglus.
Bu i’r tîm cenedlaethol a chlybiau’r wlad hyd yn oed wedi chwarae gemau ‘cartref’ dramor ar rai adegau, gan gynnwys yn yr Iseldiroedd a Chyprus.
Fodd bynnag, mae’n annhebygol y byddai gemau’n cael eu symud i’r ynys ym Môr y Canoldir y tro hwn, gan fod Cyprus – yn ogystal â Bosnia-Herzegovina – yn yr un grŵp a Chymru, Israel, Gwlad Belg ac Andorra.
Mae pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hyderus y bydd UEFA yn gwneud penderfyniad ar gêm Cymru yn Israel yn ddigon buan i osgoi rhagor o drafferth.
“Efo Israel, dw i’n credu fod o’n rhywbeth wrth gwrs mae UEFA wedi hen ddelio efo, nid jyst tro yma ond yn y gorffennol, hefyd efo clybiau ac yn y blaen,” meddai Ian Gwyn Hughes.
“Dw i ddim yn rhagweld o’n broblem, fyswn i’n tybio efo penderfyniad fel yna y bydden nhw’n ei wneud o’n ddigon cynnar i ni beth bynnag, cyn bod unrhyw un yn gwneud trefniadau – cefnogwyr, chwaraewyr a staff hyfforddi.”