Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi talu teyrnged i’r rhai sy’n gadael ei Gabinet yn dilyn ad-drefnu heddiw.
Daeth y newyddion ar gyfrif trydar Carwyn Jones ei fod yn bwriadu ad-drefnu’r cabinet y prynhawn ma.
Dywedodd ar ei gyfrif Twitter: “Rwy am dalu teyrnged i’r rhai sy’n gadael y Llywodraeth heddiw. Mae eu gwaith caled wedi helpu i wneud Cymru yn wlad well a thecach.”
Ym mis Mawrth 2013 cafwyd yr ad-drefnu diwethaf o gabinet Llywodraeth Cymru. Bryd hynny, cafodd Mark Drakeford ei benodi yn Weinidog Iechyd yn lle Lesley Griffiths.
Roedd Carwyn Jones eisoes wedi dweud y byddai’n ad-drefnu ei gabinet cyn yr etholiad yn 2016.
Dyma’r diweddaraf:
Bydd Mark Drakeford yn cadw ei swydd fel Gweindiog Iechyd.
Mae Leighton Andrews yn dychwelyd i’r Cabinet fel Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd e’n bennaf gyfrifol am gyflwyno argymhellion Comisiwn Williams ar yr awdurdodau lleol yng Nghymru.
Bydd Jane Hutt yn parhau’n Weinidog Cyllid, gyda chyfrifoldeb ychwanegol tros Fusnes y Llywodraeth yn lle Lesley Griffiths.
Carl Sargeant yw’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol newydd – John Griffiths oedd yn gyfrifol cyn heddiw.
Mae Lesley Griffiths wedi cael ei phenodi’n Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn lle Jeff Cuthbert, sydd wedi penderfynu peidio parhau yn ei swydd.
Mae Huw Lewis yn cael aros yn Weinidog Addysg a Sgiliau.
Bydd Edwina Hart yn parhau’n Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Ken Skates sydd wedi’i benodi’n Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Vaughan Gething fydd y Dirprwy Weinidog Iechyd
Mae Janice Gregory yn parhau’n Brif Chwip.
Rebecca Evans fydd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Julie James fydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Ymateb Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi talu teyrnged i’r rhai sy’n gadael y Cabinet heddiw.
Am Jeff Cuthbert, dywedodd: “Mae Jeff wedi gwneud gwaith gwych ar drechu tlodi,Bil Cenedlaethau’r Dyfodol ac ymateb i’r newidiadau i’r Gyfundrefn Les.”
Un arall sy’n gadael y Cabinet yw Gwenda Thomas, fu’n gyfrifol am y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd amdani hithau: “Bydd y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwella cynifer o fywydau ledled Cymru. Fyddai hynny ddim wedi digwydd heb Gwenda.”
Ychwanegodd fod John Griffiths wedi “gwneud ei farc” mewn nifer o swyddi yn y Llywodraeth.