Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghastell-nedd y bore ma.
Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod eto, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal unwaith y bydd ei deulu wedi cael eu darganfod.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ ar Ffordd Llundain y dref toc cyn 7 o’r gloch.
Does dim esboniad hyd yma ynghylch yr hyn oedd wedi achosi’r tân.