E-sigaret - bydd ymgynghoriad hefyd ynglyn a'u hysmygu mewn ceir sy'n cludo plant dan 18 oed
Fe allai pobol yng Nghymru wynebu dirwy o £50 yn y fan a’r lle gan yr heddlu os ydyn nhw’n cael eu dal yn anwybyddu gwaharddiad ar smygu mewn ceir sy’n cludo plant.

Mae ymgynghoriad chwe wythnos ar y cynlluniau, gafodd eu cyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Iechyd ym mis Gorffennaf, yn cael ei lansio heddiw.

Y bwriad yw amddiffyn plant dan 18 oed rhag y peryglon y mae anadlu mwg ail-law yn gallu eu hachosi, yn ôl y Llywodraeth.

Disgwylir y bydd y gyfraith newydd yn dod i rym yn 2015.

Iechyd

Mae ysmygu yn parhau i fod yn un o’r rhesymau pennaf am farwolaethau cyn eu hamser yng Nghymru, gan achosi tua 5,450 o farwolaethau yn 2010.

“Mae gan blant a phobol ifanc yr hawl i anadlu awyr lân a mwynhau amgylcheddau di-fwg,” meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

“Mae rhai pobl yn tanio sigarét mewn ceir heb feddwl, ac maen nhw o’r farn y bydd agor ffenestr yn helpu i gael gwared ar y mwg; ond mae gwneud hynny’n ei chwythu’n ôl i mewn i’r car.

“Dyw plant ddim yn gallu dianc rhag y cemegion gwenwynig sydd mewn mwg ail law pan fyddan nhw’n teithio mewn cerbydau.”

Ychwanegodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd: “Byddai newid y gyfraith yn diogelu plant rhag y niwed sy’n gysylltiedig ag anadlu mwg ail law mewn cerbydau preifat, yn annog smygwyr i gymryd camau i ddiogelu plant rhag mwg ail law, ac yn arwain at leihau’r nifer o gyflyrau iechyd ymhlith plant sy’n cael eu hachosi gan fwg ail law.”

E-sigarets

Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad i bennu a ddylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wahardd y defnydd o e-sigaréts mewn cerbydau preifat sy’n cario plant iau na 18 oed.