Mae gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos tân ym Mae Colwyn neithiwr.

Fe gynheuodd y fflamau mewn fflat uwchben siop ar Ffordd yr Orsaf yng nghanol y dre’ am 2.43yb.

Fe gafodd y bobol yn y fflat eu symud i le diogel, a chafodd neb ei anafu, tra bu pedair injan dân yn diffodd y fflamau.