hel
Y mis hwn, fe fydd dros 300 o artistiaid yn arddangos eu gwaith yn nigwyddiad stiwdios agored mwyaf gogledd Cymru, sef Yr Helfa Gelf.
Yn amrywio o lampau wedi’u gwneud allan o goed i ddreigiau gwydr a thirluniau abstract, fe fydd y gwaith i’w weld yn rhad ac am ddim mewn lleoliadau yng Ngwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Dinbych a Wrecsam bob penwythnos o 11-5pm.
Cynhelir Yr Helfa Gelf am y nawfed tro eleni gyda’r bwriad o roi cyfle i ymwelwyr gael cipolwg ar fyd cyfrin yr artistiaid Cymreig.
Dau artist fydd yn arddangos eu gwaith yn Galeri Caernarfon fel rhan o’r arddangosfa fawr yw Cathryn Lowri Griffith o Langernyw a Rebecca F Hardy o Fethesda. Maen nhw wedi penderfynu cydweithio gyda’i gilydd am y tro cynaf.
“Rydym ni’n gweithio mewn ffordd debyg ac annhebyg, ond rydym ni wedi penderfynu bod ganddom ni ddigon o themâu i’n caniatáu i gydweithio hefo’n gilydd,” meddai Cathryn Griffith.
“Rydym ni’n gofyn i’r cyhoedd fod yn rhan o beth ydan ni’n ei wneud, sy’n reit arbrofol. Y syniad ydy bod bobol yn dod a hen luniau neu hen ddefnydd i ni ei sganio a’i ddefnyddio mewn collage neu ei hongian yn y foyer.
Ychwanegodd Rebecca Hardy:
“Mae’n braf i ni gael y cyfle yma i drio rhywbeth newydd a thrafod ein gwaith hefo bobol. Dydych chi ddim yn cael y cyfle yma fel arfer.
Sgwrs bellach efo’r artistiaid ac un o’r trefnwyr yma:
Sgwrs gydag un o’r trefnwyr, Menna Thomas o’r Galeri: