Glyn Davies
Mae’r Daily Mail wedi cyhoeddi “honiadau chwerthinllyd” am y diwydaint llaeth, yn ôl Aelod Seneddol Maldwyn.
Bu i’r papur newydd gario stori ar Awst 30 gyda’r Dr Sohere Roked yn honni bod hormonau yn cael eu chwistrellu i wartheg fel eu body n parhau i gynhyrchu llefrith drwy’r flwyddyn, a bod hormonau a gwrthfeiotegau yn brfesennol mewn llaeth.
Meddai Glyn Davies AS: “Mae’n anhygoel o siomedig gweld sylwadau mor amlwg o anwir a disail yn cael eu gwneud am ddiwydiant cynhyrchu sydd mor bwysig yma yn Sir Faldwyn.
“Mae diwydiant llaeth Prydain yn arwain y byd wrth ddarparu cynnyrch iachus o safon uchel gyda safonau lles yr anifeiliaid yn wych.
“Mae rhoi hormonau tyfiant yn anghyfreithlon ym Mhrydain, ac mae canllawiau llym a phorif anifeiliaid er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gwrthfeiotegau yn bresennol mewn llefrith. Mae’n anghywir iawn i bapur cenedlaethol honni fel arall.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Daily Mail am ymateb.