Pet Shop Boys ar lwyfan
Gyda disgwyl i tua 10,000 o bobol ymlwybro i bentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog ar gyfer Gŵyl Rhif 6 y penwsos yma, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi bod 30% yn fwy o dicedi wedi’u gwerthu o gymharu â’r llynedd.

Mae tocyn penwythnos yn costio £160 i oedolyn neu rhwng £50-£65 am docyn diwrnod.

Cynhelir yr ŵyl am y drydedd flwyddyn a’r ddeuawd bop Pet Shop Boys – sy’n enwog am ganeuon fel ‘West End Girls’ a ‘It’s a Sin’ -fydd uchafbwynt y sioe eleni.

Bydd llwyfan Cymraeg yno hefyd, a Geraint Jarman, Candelas, Gai Toms, Kizzy Crawford, Casi, Cian Ciarán o’r Super Furrys, Sŵnami a’r Ods yn perfformio.

Gwersi Cymraeg

Am y tro cyntaf, mae’r ŵyl yn cynnig gwersi Cymraeg gydag Ann Bierd, tiwtor gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd, sy’n cael eu trefnu drwy gaffi Tim Burgess, Tim Peaks Cafe. Bydd y dosbarthiadau yn cael eu cynnal bob bore.