Y côr yn y camperfan Llun: Eglwys San Paul
Mae côr eglwysig o Landudno wedi cynnal gwasanaeth traddodiadol yng nghefn camperfan i godi arian i drwsio organ yr eglwys.

Aeth y côr ati i gynnal eu gwasanaeth yn y cerbyd Volkswagen er mai lle i bedwar aelod o’r côr yn unig oedd y tu fewn iddo – a’r organydd yng nghist y fan!

Dywedodd cadeirydd apêl Eglwys San Paul, David Hay fod yr awyrgylch yn “gysurus… ond yn wasgfa!”

“Doedd dim ots gan yr organydd orfod gwasgu ei allweddell i mewn i’r gist.

“Gwnaeth y prinder lle greu sain agos-atoch, ac roedd modd berwi’r tegell heb godi o’n llefydd wrth ganu.”

Yn dilyn y gwasanaeth anarferol, cafodd sesiwn canu emynau ei chynnal ar y prom, ac mae’r eglwys yn gobeithio bod y digwyddiad wedi codi swm sylweddol o arian tuag at eu hapêl, gan fod angen oddeutu £150,000 er mwyn trwsio’r organ.

Mae disgwyl i’r gwaith gymryd ychydig fisoedd, ond ni fydd modd dechrau tan fod yr holl arian wedi’i godi.