Jamie Shadrake
Mae rheithfarn naratif wedi cael ei gofnodi mewn cwest i farwolaeth milwr o Gymru a gafodd ei saethu tair gwaith yn ei ben a’i frest yn Afghanistan.

Bu farw Jamie Shadrake o Wrecsam yn Nhalaith Helmand yn 2012, dim ond ychydig ddyddiau ar ôl ei ben-blwydd yn 20 mlwydd oed.

Cafodd y milwr, o Fataliwn 1af Gwarchodlu’r Grenadwyr, ei ladd ychydig funudau wedi iddo gymryd drosodd dyletswyddau gwyliwr mewn safle archwilio dros dro yn Nahr-e Saraj yn Nhalaith Helmand.

Clywodd y cwest ddatganiad gan Lefftenant Moynan Frederick, a oedd yn yr ystafell weithredu ar y pryd.

Meddai’r datganiad eu bod nhw wedi cael rhybudd bod ymosodiad ar fin digwydd.

Digwyddodd yr ymosodiad, a barodd prin fwy na munud, eiliadau ar ôl i’r rhybudd gael ei gyhoeddi.

Yn dilyn yr ymosodiad, cludwyd Jamie Shadrake i’r gwersyll ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd y crwner, John Gittins, ei fod yn sicr bod gwersi wedi eu dysgu.