Mae ymgyrch fawr ar y gweill ar y môr o gwmpas Ynys Môn, er mwyn ceisio dod o hyd i blentyn sydd ar goll.
Mae badau achub o Fae Trearddur, Caergybi a Phorthdinllaen yn rhan o’r chwilio ers prynhawn heddiw, ar ôl derbyn adroddiadau toc wedi cinio fod dyn a bachgen wedi’u sgubo gan y tonnau yn ardal Aberffraw.
Tra bod yr oedolyn bellach wedi gwneud ei ffordd yn ôl i’r lan, mae’r plentyn yn dal i fod ar goll.
Mae’r ddau fad achub, ynghyd â thimau Gwylwyr y Glannau a hofrennydd y Llu Awyr yn rhan o’r chwilio.