Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwrthod rhoi caniatâd i godi fferm solar ym Mhenrhyn Gŵyr.

Roedd Grŵp Cydweithredol Gower Power wedi gobeithio codi 4,000 o banelau solar ar dir 15 erw ym mhentref Ilston.

Wrth gymeradwyo’r cais, roedd swyddogion cynllunio wedi dweud na fyddai’r safle yn achosi unrhyw effaith andwyol i’r gymuned.

Ond cafodd y cais terfynol ei wrthod yn dilyn degau o lythyrau’n gwrthwynebu’r cynlluniau.

Cymdeithas Gŵyr

Un o’r prif wrthwynebwyr i’r cynlluniau oedd Cymdeithas Gŵyr, un o’r prif grwpiau sy’n ymgyrchu tros faterion cadwraethol yn yr ardal harddwch naturiol eithriadol gynta’ yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1947 gan bedwar dyn lleol, gan gynnwys y newyddiadurwr a’r meddyg teulu lleol, Dr Gwent Jones.

Tyfodd y Gymdeithas o gyfeillgarwch Dr Gwent Jones a David Rees, oedd yn ymddiddori yn hanes yr ardal leol.

Roedd y pedwar sylfaenydd yn gyfuniad o raddedigion Abertawe a Rhydychen oedd yn galw eu hunain yn “grŵp ymchwil anffurfiol”.

Gan amlaf, yng nghartref Dr Gwent Jones yn Sgeti roedden nhw’n cwrdd, ac fe dyfodd y grŵp fel y bydden nhw’n cyhoeddi cyfnodolyn erbyn 1947, yn cofnodi hanes eu teithiau.

Un o’u hymgyrchoedd cyntaf oedd honno’n gwrthwynebu codi gwersyll Butlin’s yn Rhosili. Bellach, mae gan y Gymdeithas 1,600 o aelodau.