Ennill llai na’r cyflog byw yw’r norm i’r rhan fwyaf o fenywod sy’n gweithio’n rhan-amser yn rhannau helaeth o Brydain, yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur.

Mae Sir y Fflint yn nawfed ar y rhestr yng ngwledydd Prydain.

Mae’r undeb wedi galw am ateb i’r sefyllfa, gan alw hefyd ar i Lywodraeth Prydain sicrhau bod busnesau sy’n ennill cytundebau yn talu’r cyflog byw i’w gweithwyr.

Ar hyn o bryd, £7.65 yw’r cyflog byw ledled Prydain – £8.80 yn Llundain – ond £6.31 yn unig yw’r isafswm cyflog.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y Gyngres, Frances O’Grady fod merched yn dioddef yn sgil tlodi gwaith.

“Cafodd y cyflog byw ei greu fel y gall gwaith roi safon byw sylfaenol i staff ond yn rhannau helaeth o Brydain, dydy’r rhan fwyaf o fenywod sy’n gweithio’n rhan-amser ddim yn ennill hyn o bell ffordd.

“Mae menywod o bob oed a lefel sgil yn aml yn eu darganfod eu hunain mewn swyddi sy’n talu’n isel.”

Ychwanegodd y byddai datrys y sefyllfa’n gwella’r economi’n gyffredinol.