Yn dilyn protestiadau a chwyno, mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd plant sy’n byw ym Maesgeirchen ger Bangor a’r Groeslon ger Caernarfon yn cael eu cludo i’r ysgol ar fysus o ddechrau Medi.

Bydd y gwasanaethau bws i’r ddwy ardal, a fydd yn gweithredu o gychwyn y flwyddyn ysgol newydd ar 2 Medi, yn dilyn yr un ffyrdd a’r amserau â’r gwasanaeth blaenorol yn y flwyddyn ysgol ddiwethaf.

“Dw i’n falch iawn ein bod ni wedi cael ateb i hyn,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, yr Aelod dros Addysg ar Gabinet Cyngor Gwynedd.

“Ar ôl i rai teuluoedd fynegi pryderon, mi wnes i ofyn i swyddogion y Cyngor edrych ar ffyrdd o barhau â gwasanaeth bws a fyddai ar gael i ddisgyblionysgolo Faesgeirchen sy’n teithio i Ysgol Friars ac Ysgol Tryfan a disgyblion o’r Groeslon sy’n teithio i Ysgol Dyffryn Nantlle.

“Mae’r Cyngor bellach wedi ysgrifennu at y teuluoedd i esbonio y bydd gwasanaeth bws dros dro ar waith erbyn cychwyn y tymor ysgol, ac y bydd cytundeb parhaol wedyn yn cael ei drefnu gyda darparwr trafnidiaeth leol i sicrhau parhad cludiant o’r cartref i’r ysgol ym Maesgeirchen a’r Groeslon.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd y Cynghorydd Nigel Pickavance, sy’n cynrychioli ardal Maesgeirchen o Fangor ar Gyngor Gwynedd:

“Dw i’n hynod o falch fod Cyngor Gwynedd wedi gallu dod i drefniant a fydd yn gweld parhad gwasanaeth bws ysgol o Faesgeirchen i Ysgol Tryfan ac Ysgol Friars ym Mangor Uchaf.

“Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, dw i a’m cyd-gynghorydd lleol, Christopher O’Neal, ynghyd â rhieni o Faesgeirchen, wedi bod yn gweithio i gadw gwasanaeth cludiant. Yn dilyn llawer o drafodaethau efo’r Cyngor, dw i’n falch o weld ateb ymarferol.”