Lee-Joseph Dixon (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae dyn o Gaerdydd wedi’i ddedfrydu i 16 mlynedd o garchar, wedi iddo dreisio dynes 91 oed yn ei chartre’ yn gynharach eleni.

Fe ynmddangosodd Lee-Joseph Dixon, 18, o Drelai, Caerdydd, yn Llys y Goron Casnewydd heddiw. Roedd eisoes wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad o drais.

Roedd wedi treisio’r hen wraig ar Fai 24 yng Nghaerdydd.

Fe fydd Lee-Joseph Dixon yn treulio wyth mlynedd dan glo, ac yn treulio wyth mlynedd arall ei ddefryd ar drwydded.

Mae hefyd wedi’i orchymyn i arwyddo’r Gofrestr Troseddwyr Rhyw a’r Gofrestr Troseddwyr Peryglus am weddill ei oes.