Mae pentrefwyr wedi sefydlu grwp i wrthwynebu cynlluniau i greu fferm solar rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Mae trigolion Llanfihangel-y-fedw a’r ardal yn ymateb i nifer fawr o geisiadau am fentrau ‘egni gwyrdd’ ar diroedd amaethyddol.
Hyd yma, mae’r grwp wedi bod yn protestio gan ddadlau y byddai’r cynlluniau’n difetha’r dirwedd ac yn gwastraffu tir ffermio da.
Mae’r cynlluniau diweddara’, gan EEW Eco Energy World Ltd, yn cynnig gosod newidyddion (transformers), ffensys a chamerau cylch-cyfyng ar y safle – ar ben y panelau solar 18MW.