Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio fod ffigyrau newydd ar brisiau tai yn dangos bod pobl yng Ngheredigion yn wynebu brwydr gynyddol i fforddio prynu cartref.

Yn ôl ystadegau gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad, mae’r gymhareb rhwng prisiau tai ac enillion wedi codi i 7.12 yng Ngheredigion, o’i gymharu â 4.8 yn unig bymtheg mlynedd yn ôl.

Ceredigion yw un o bedair sir yng Nghymru – yn ogystal â Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Phowys – lle mae pris tŷ dros saith gwaith yn fwy na thâl blynyddol.

Sir Fynwy sydd â’r gyfradd uchaf, gyda phris tŷ 7.88 gwaith yn uwch na thâl blynyddol cyfartalog, gyda Phowys yn 7.83 a Bro Morgannwg yn 7.23.

Mae’r tri awdurdod lleol gyda’r cyfraddau isaf i gyd yng nghymoedd y De, gyda Blaenau Gwent yn 3.61, Rhondda Cynon Taf yn 3.84 a Blaenau Gwent yn 3.92.

Fodd bynnag, mae hyd yn oed y tair ardal yna wedi gweld cynnydd sylweddol yn y gyfradd o’i gymharu â phymtheg mlynedd yn ôl, pan nad oedd yr un ohonynt yn uwch na 2.55.

Mae bellach yn costio £117,000 ar gyfartaledd i brynu tŷ yng Nghymru – ond mae’r ffigwr yna’n dal i fod yn bron i chwarter y £440,000 y byddai’n rhaid ei dalu am dŷ cyfatebol yn Llundain.

Argyfwng lleol

Wrth ymateb i’r ffigyrau diweddaraf dywedodd Mike Parker, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer San Steffan yn 2015, ei fod yn dangos yr argyfwng sydd yn wynebu pobl leol wrth geisio prynu tai.

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos yr hyn rwy’n clywed drwy’r amser,” meddai Mike Parker.

“Mae llawer o bobl – yn enwedig teuluoedd ifanc – yn cael trafferth wirioneddol i brynu cartref yng Ngheredigion. Mae’r math hwn o wahaniaeth rhwng prisiau tai ac enillion yn bygwth ein cymunedau.

“Mae’r sefyllfa, o dan lywodraethau o bob lliw, wedi gwaethygu dros y ddau ddegawd diwethaf. Wrth i’r economi ddechrau adennill tir mewn rhai ardaloedd mae’n aros yn ei unfan mewn eraill, felly mae perygl gwirioneddol y bydd y duedd yn parhau i waethygu.”

Dywedodd na ddylai’r llywodraeth ddibynnu ar gynnydd prisiau tai er mwyn cynnal adferiad economaidd, a bod angen cymorth ar bobl i fyw’n fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

“Bydd adferiad economaidd yn seiliedig ar swigen prisiau tai o ddim help i Geredigion,” meddai Mike Parker. “Mae pob swigen yn torri yn y pen draw.

“Rhaid annog twf economaidd gwirioneddol a chyson, trwy fesurau i ddelio â diweithdra ymhlith pobl ifanc, annog entrepreneuriaeth, datblygu gofal plant fforddiadwy i helpu pobl yn ôl i’r gwaith, a chanolbwyntio ar fusnesau lleol drwy ddiwygio caffael a threthi busnes.

“Ac o ran tai, mae angen i ni ddod â mwy o’n stoc dai gwag yn ôl i ddefnydd parhaol, gwella eiddo hŷn i’w gwneud yn rhatach ac yn fwy effeithlon i fyw ynddynt, gweithio i gynyddu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chymdeithasol a diwygio’r llanast sydd yn y sector rhentu preifat.”