Fe fydd gan bob darparwr tai cymdeithasol yng Nghymru bolisiau ymddygiad gwrth-gymdeithasol a cham-drin domestig mewn lle ar gyfer eu tenantiaid a’u staff.
Dyma gyhoeddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, heddiw.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn datganiad fis Mai diwethaf lle dywedodd y Gweinidog ei bod yn bwysig bod sector tai Cymru yn cymryd cyfrifoldeb problemau gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig.
“Yn anffodus, mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Cham-drin Domestig yn parhau i fod yn broblemau difrifol i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru ac rwyf wedi datgan yn glir bod gan y sector tai rôl ganolog i’w chwarae yn taclo’r problemau hyn,” meddai Carl Sargeant.
“Mae’r ffaith bod gennym nawr bolisïau ar waith i’n helpu gyda’r problemau hyn yn gam enfawr ymlaen.
“Yr her nawr yw rhoi’r polisïau hyn ar waith, eu monitro a’u diweddaru’n effeithiol. Mae yna lawer o bobol sy’n agored i niwed yng Nghymru ac mae’n bwysig eu helpu yn y ffordd orau bosib.
“Yn hyn o beth, rwy’n annog unrhyw denant sy’n dioddef cam-drin domestig neu ymddygiad gwrthgymdeithasol i gysylltu â’u darparydd tai lleol fel y gallan nhw, y darparydd, gael gwared ar yr ymddygiad cwbl annerbyniol hwn o’r cartrefi.”