Fe fydd cwmni ynni Lightsource yn cynnal noson agored ym Mhen Llŷn heno, i drafod y bwriad o adeiladu fferm solar newydd fyddai’n cyflenwi 2,800 o dai a thrydan.

Mae’n dilyn cwynion gan drigolion lleol nad yw Lightsource wedi ymgynghori digon efo nhw.

Mae cynlluniau i adeiladu fferm solar 50 erw ar dir Fferm Tyddyn Cae ym Moduan ger Pwllheli, gyda 30,000 o baneli 2.5m o uchder yn cael eu gosod yno.

Nid yw’r cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd yn swyddogol eto, ac mae’r noson agored yn Nefyn yn cael ei threfnu er mwyn rhoi cyfle i’r gymuned weld y cynlluniau a lleisio barn.

Tywyllwch

Er bod Lightsource yn honni eu bod wedi gyrru pecynnau gwybodaeth i gartrefi o fewn 1.5km i’r datblygiad arfaethedig, mae’r cynghorydd Anwen Davies, sy’n cynrychioli Efailnewydd, yn dweud fod angen i’r cwmni ddarparu mwy o wybodaeth:

“Dw i ddim o blaid nac yn erbyn y cynlluniau am nad ydw i’n gwybod digon amdanyn nhw. Mae angen trefnu cyfarfod cyhoeddus iawn er mwyn i bobol leol ddeall beth sy’n mynd ymlaen.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydy’r cynlluniau yn cael eu gwthio drwy’r drws cefn.

“Maen nhw [Lightsource] wedi ein gadael ni yn y tywyllwch yn gyfan gwbl. Dwi’n teimlo fod hyn yn benderfyniad mawr a’r lleiaf y gallen nhw’i wneud yw trefnu cyfarfod cyhoeddus i’r rhai a all gael eu heffeithio gan y cynlluniau.”