Mae ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos fod llai o bobol yn siopa ar y stryd fawr yng Nghymru – a hynny er bod nifer y siopa sy’n agor yng nghanol trefi a dinasoedd ar gynnydd.
Fe fu 1.4% yn llai o bobol yn ymweld â siopau y llynedd. Ond, ar y llaw arall, mae 2% yn llai o siopau gwag i’w gweld ar brif strydoedd siopa.
Ac, er bod nifer y siopau gwag yng Nghymru wedi gostwng, mae’n dal i fod yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer gwledydd Prydain.
Fe gyhoeddir y ffigyrau hyn gan y BRC – y British Retail Consortium.