Mae Oliver bellach ar frig y rhestr o enwau mwyaf poblogaidd i fechgyn Cymru a roddwyd yn 2013, gydag Amelia’n dal ei gafael ar y safle cyntaf ar restr y merched.
Cipiodd Oliver y safle uchaf oddi ar Jacob, gyda Jack yn drydydd ar y rhestr i fechgyn, ac mae’r tri enw hefyd ymysg y pedwar uchaf o ran enwau babis yn Lloegr.
Yn rhestr enwau’r merched yng Nghymru mae Olivia wedi codi i’r ail safle, tra bod Ava’n cwympo un lle i drydydd.
Daeth y naid fwyaf yn y 100 enw mwya’ poblogaidd ar fachgen gan Arthur, a gododd 58 safle i 69ain, gyda Jaxon, Frankie, Gabriel, Rowan, Owain a Bailey i gyd hefyd ymysg y rhai a neidiodd i’r 100 uchaf.
Roedd Dexter, Corey a Freddie hefyd ymysg yr enwau a gododd yn sylweddol, gyda Callum, Iestyn, Cameron a Caleb yn cwympo fwyaf.
Neidiodd llu o enwau newydd i mewn i restr y 100 uchaf i ferched, gan gynnwys Thea, Macie, Mila, Eve a Darcey.
Gwelwyd cynnydd hefyd ym mhoblogrwydd enwau megis Alys, Matilda, Elsie a Lili, ond doedd Katie, Alexis a Carys ddim mor boblogaidd yn 2013.
Deg enw bachgen mwyaf poblogaidd yng Nghymru 2013
1.Oliver (+1 newid ers 2012)
2.Jacob (-1)
3.Jack (+1)
4.Charlie (+3)
5.Alfie (dim newid)
6.Noah (+10)
7.Harry (-1)
8.Riley (-5)
8.William (+1)
10.Dylan (-2)
10.Mason (dim newid)
Deg enw merch mwyaf poblogaidd yng Nghymru 2013
1.Amelia (dim newid)
2.Olivia (+3)
3.Ava (-1)
4.Ruby (+2)
5.Emily (+6)
6.Poppy (+11)
7.Ella (+2)
8.Mia (-5)
9.Isla (+13)
10.Isabella (+6)
10.Seren (-3)