Arthur Jones
Mae disgwyl i angladd Arthur Jones o Ddinbych fu farw ar ynys Creta, gael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair, Dinbych yn ddiweddarach heddiw.

Daethpwyd o hyd i gorff y gŵr 73 oed yn pwyso ar goeden ar dir garw yn y wlad ar y trydydd o Awst, chwe wythnos ar ôl iddo gyrraedd yr ynys ar wyliau cerdded.

Bu chwilio helaeth amdano ac roedd ffrindiau ac aelodau o’i deulu wedi teithio i’r ynys i helpu’r ymdrechion.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio yn Rhuthun ddydd Llun.