Gwenda Thomas

Fe all plant ac wyrion pobol fabwysiedig gael yr hawl i gysylltu â theulu genedigol eu rhieni, o dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd dim ond pobol fabwysiedig a’u teuluoedd genedigol sy’n cael defnyddio gwasanaethau cyfryngu yr intermediary services.

Mae hwnnw’n hwyluso cyswllt rhwng pobol fabwysiedig a’u teuluoedd genedigol.

Bwriad y Llywodraeth yw ehangu hyn i bobol eraill ddefnyddio’r gwasanaethau.

Fe all y rhain gynnwys plant ac wyrion pobol fabwysiedig ac aelodau o deulu ehangach yr unigolyn mabwysiedig, fel gwŷr a gwragedd eu disgynyddion.

Mae’r gwasanaethau yn cael eu rhedeg gan gynghorau sir ac asiantaethau sydd yn cynnig cwnsela, cymorth a chyngor.

Gobaith y Llywodraeth yw sicrhau bod gwasanaethau cyfryngu i’r rheiny a fabwysiadwyd yng Nghymru cyn Rhagfyr 30, 2005. Mae trefn wahanol i’r rheiny a fabwysiadwyd ar ôl hynny.

O dan y cynigion fe all pobol fabwysiedig atal yr asiantaeth cyfryngu, yn ysgrifenedig, rhag gwneud cysylltiad.

Hefyd gellid mynnu eu bod nhw ond yn cysylltu mewn amgylchiadau penodol.

Angen amddiffyn preifatrwydd

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â’r rheoliadau i rym yng Nghymru erbyn haf 2015.

“Rwy’n credu bod rhesymau da dros ganiatáu i ddisgynyddion a pherthnasau pobl fabwysiedig gael defnyddio gwasanaethau cyfryngu,” meddai’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas.

“Er enghraifft, gallai fod rhesymau iechyd fel canfod os oes cyflwr meddygol etifeddol neu broblem iechyd arall a allai effeithio ar blant person.

“Felly rwy’n credu y dylid caniatáu i blant ac wyrion pobl fabwysiedig gael defnyddio gwasanaethau o’r fath, yn ogystal â’r bobl fabwysiedig eu hunain.

“Rydyn ni’n credu hefyd y dylid gosod trefniadau diogelu digonol i amddiffyn teuluoedd a bywydau preifat pobl fabwysiedig, a chydbwyso hawliau pobl fabwysiedig, ‘personau rhagnodedig’ a theuluoedd genedigol, gan fod yr hawliau hyn yn aml yn gwrthdaro.”