Ysgol Uwchradd Cwmcarn
Fydd geneth ysgol a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i ladd ei hathrawes, ddim yn wynebu unrhyw gamau disgyblu pellach.

Fe gafodd y ferch 15 oed o’r Rhisga ei harestio ym mis Mai eleni ar gyhuddiad o gynllwynio i ladd Alison Cray, athrawes yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn yn sir Gaerffili.

Mae’r heddlu wedi derbyn cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron, ac wedi cyhoeddi na fydd camau pellach yn erbyn y ferch.

Fe gafodd merch arall 15 oed ei harestio ar amheuaeth o fygwth lladd ac o fod a llafn yn ei meddiant ar dir yr ysgol. Roedd hithau hefyd dan amheuaeth o gynllwynio i lofruddio, ac mae cyfnod ei mechniaeth wedi’i ymestyn.

Mae’r ddawy wedi’u gwahardd o’r ysgol.