Gruff Rhys a'i brosiect American Interior
Mae prosiect aml-gyfrwng Gruff Rhys, American Interior, wedi denu rhagor o gydnabyddiaeth ar ôl i’w albwm a’i lyfr dderbyn enwebiadau ddoe.

Cafodd albwm y prosiect ei enwebu neithiwr am Albwm Annibynnol y Flwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Annibynnol AIM.

Mae’n dilyn y newyddion fod y llyfr a ddaeth gyda’r albwm wedi cael ei dewis ar restr fer y Guardian First Book Award yn ogystal â gwobr Gordon Burn.

Fe ryddhaodd y cyn-Super Furry ei brosiect American Interior yn gynharach eleni, gydag albwm, llyfr, ffilm ac ap yn rhan o’r pecyn.

Roedd y gwaith yn sôn am daith Gruff Rhys i olrhain hanes un o’i gyndeidiau, John Evans, a deithiodd i America yn yr 18fed Ganrif i geisio canfod llwyth o Indiaid brodorol oedd yn siarad Cymraeg.

Cafodd cynnwys American Interior hefyd ei ryddhau yn Gymraeg, o dan y teitl ‘I Grombil Cyfandir Pell’.

Bu Gruff Rhys ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli’r wythnos diwethaf yn sgwrsio â Huw Stephens am ei brosiect, a pherfformio rhai o ganeuon yr albwm.

Gruff Rhys yn perfformio ar y maes:

Fe fydd yn chwarae yng Ngŵyl Gwydir yn Llanrwst ar 29 Awst, a hefyd yn perfformio ym Mhenwythnos Dylan yn Nhalacharn ar 21 Medi.