Mae gemau byw Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 ar gyfer tymor 2014-2015 yn dechrau ar S4C gyda thaith i’r Eidal pan fydd gêm Zebre v Gleision yn cael ei darlledu ar Sul, 7 Medi.

Bydd y gêm Guinness Pro 12 yn fyw o Stadiwm Aprile yn rhan o’r sioe chwaraeon brynhawn Sul newydd, Clwb, a fydd yn cynnwys pecyn tanllyd o gemau byw ac uchafbwyntiau o wahanol chwaraeon.

Bydd Clwb Rygbi ar S4C yn darlledu gemau rygbi yn Gymraeg yn rhad ac am ddim ar deledu daearol o’r Guinness Pro 12 a chystadlaethau clwb eraill ar brynhawniau Sul.

Bydd Clwb Rygbi yn darlledu nifer o gemau darbi rhwng y rhanbarthau Cymreig yn yr hydref gan gynnwys Scarlets v Dreigiau ddydd Sul 5 Hydref a Gweilch v Gleision ddydd Sul 12 Hydref.

Yn y flwyddyn newydd bydd S4C yn dangos Scarlets v Gweilch a Gweilch v Dreigiau yn fyw hefyd.

Gemau byw eraill

Ymhlith y gemau byw eraill sydd wedi cadarnhau ar gyfer wythnosau cyntaf y tymor mae Gleision v Glasgow ddydd Sul 14 Medi, Gweilch v Glasgow ddydd Sul 21 Medi a Dreigiau v Treviso ddydd Sul 28 Medi. Y gemau i gyd i ddechrau am 4.00pm.

Yn ddiweddar fe wnaeth S4C a BBC Cymru Wales gyhoeddi cytundeb pedair blynedd i ddarlledu gemau Guinness Pro 12 ar deledu daearol.

Mae Clwb Rygbi, cynhyrchiad BBC Cymru Wales ar gyfer S4C, ar fin datgelu tîm cyflwyno newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Beth ydi Clwb?

Yn ddiweddar fe wnaeth S4C gyhoeddi dyfodiaid Clwb, sioe chwaraeon brynhawn Sul i’w chyflwyno gan Dylan Ebenezer.

Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Rondo Media yn fyw o’i stiwdios yng Nghaernarfon, fe fydd yn cynnwys pêl-droed o Uwch Gynghrair Cymru ar y rhan fwyaf o’r penwythnosau, seiclo, ralïo, rhedeg, athletau ymhlith chwaraeon eraill.

Bu Dylan Ebenezer yn rhan o her chwaraeon a lansiodd Y Clwb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos diwethaf, a bu’n siarad â golwg360 am gynnwys y rhaglen newydd: