Dadorchuddio cynllun y gofeb ym mis Chwefror eleni
Mae criw o Gymry wedi dechrau ar eu taith i Fflandrys ar gyfer dadorchuddio cofeb newydd i filwyr o Gymru fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae taith arbennig wedi cael ei threfnu o Gaernarfon i Wlad Belg i nodi’r achlysur, pan fydd cromlech o gerrig o chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd a draig goch o efydd yn cael eu gosod mewn gardd goffa arbennig.
Mae dadorchuddio’r gofeb yn benllanw ymgyrch hir gan y grŵp Cofeb Gymreig yn Fflandrys, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i’r prosiect sydd wedi para tair blynedd.
Cafodd y gofeb ei dylunio gan Lee Odishow o Ddinbych-y-Pysgod.
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn teithio i Langemark ar gyfer seremoni arbennig ddydd Sadwrn pan fydd e’n gosod blodau a phridd o gopaon Yr Wyddfa, Pen-y-Fan a’r Ysgwrn wrth gofeb yno.
Mae disgwyl i hyd at 1,000 o bobol fod yn bresennol.
Yn ystod y dyddiau nesaf, fe fydd nifer o adeiladau amlycaf Cymru’n talu teyrnged i filwyr o Gymru a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys Castell Coch, Castell Caernarfon a Chanolfan y Mileniwm.
Bydd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn gosod torch ar y gofeb newydd ddydd Sadwrn, gan dalu teyrnged i filwyr o Gymru fu farw ar Gefn Pilckem yn ystod Brwydr Passchendaele yn 1917.
Roedd y bardd Hedd Wyn ymhlith y rhai fu farw yno.
Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler: “Mae llawer o gofebion i nodi’r aberth a wnaed yn Passchendaele gan ddynion o lawer o wledydd.
“Ond hyd yn hyn, ni fu teyrnged benodol i aberth y milwyr o Gymru fu farw yn ystod y frwydr waedlyd honno.
“Wrth i ni nodi 100 mlynedd ers y rhyfel creulon hwn, rydym yn cydnabod yr aberth a wnaed gan y miloedd o filwyr o Gymru.
“Mae’n anrhydedd i mi gynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth osod torch ar y gofeb hon.”
Bydd arweinwyr y pedair plaid wleidyddol yng Nghymru yn ymuno â’r Llywydd yn y seremoni.
Dywedodd arweinydd ymgyrch y gofeb, Peter Carter Jones: “Ar ran Ymgyrch Cofeb y Cymry yn Fflandrys, rwy’n falch o weld y bydd y Fonesig Rosemary Butler AC yn bresennol i gynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gosod torch ar ran y Cynulliad, yn y gwasanaeth pwysig hwn i anrhydeddu aberth milwyr o Gymru a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chofio amdanynt.”