Nasir Malik
Fe fydd yr achos llys yn erbyn cyn-bennaeth elusen AWEMA, Nasir Malik, yn parhau yn Llys y Goron Abertawe heddiw.

Mae Malik yn wynebu tri chyhuddiad o dwyll.

Ddoe, honnodd yr erlyniad fod Malik wedi defnyddio arian o gyfrif banc yr elusen i dalu dyledion roedd e wedi’u casglu trwy gerdyn credyd personol.

Mae’n gwadu’r tri chyhuddiad.

Ar ddiwrnod cynta’r achos ddoe, clywodd y llys fod Malik wedi gofyn i’r elusen am siec wag, gan honni ei fod e’n ceisio rhoi trefn ar gyfrifon.

Ac roedd Malik hefyd wedi gofyn am ei gyflog yn gynt nag arfer.

Wedi i gydweithiwr awdurdodi siec, dywedodd yr erlyniad fod Malik wedi’i defnyddio i dalu dyled gwerth £2,500.

Bedwar mis yn ddiweddarach, roedd wedi trosglwyddo mwy na £9,000 o’r elusen i’w gyfrif personol pan aeth i ddyled unwaith eto.

Yn ogystal, honnir i Malik ddefnyddio cyfrif banc yr elusen i dalu am yswiriant personol yn enw ei wraig – roedd hi’n disgwyl ennill hyd at £120,000 pe bai ei gŵr yn marw.

Daeth elusen AWEMA i ben yn 2012 yn dilyn honiadau o gamreolaeth ariannol.

Mae’r achos yn parhau.