Rasys beiciau modur MotoGP
Mae cytundeb wedi’i arwyddo i ddod a rasys beiciau modur MotoGP i drac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy.
Bydd y rasys yn cael eu cynnal ar y trac rasio £280m yn Rassau, sydd eto i’w adeiladu.
Mae rheolwyr y gylchffordd wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd gyda chwmni Dorna Sports, perchnogion  hawliau MotoGP, o 2015 ymlaen gyda’r opsiwn o ymestyn hynny am bum mlynedd arall.

Y cynlluniau ar gyfer trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy
Ni fydd y trac yn barod erbyn 2015 felly fe fydd Cylchffordd Cymru yn hyrwyddo’r ras am y flwyddyn gyntaf. Bydd honno’n cael ei chynnal mewn lleoliad arall ym Mhrydain y flwyddyn honno gyda’r gobaith i’r ras fod yng Nglyn Ebwy o 2016 ymlaen.
Amcangyfrif y bydd 750,000 o bobol yn ymweld â’r trac bob blwyddyn gyda’r gobaith o gynhyrchu £50m y flwyddyn i economi Cymru.
Mae’r datblygwyr, Cwmni Blaenau’r Cymoedd, yn rhagweld y bydd 3,000 o swyddi’n cael eu creu wrth adeiladu, gyda thua 6,000 o swyddi newydd ar ôl gorffen.
“Mae ein cytundeb gyda Dorna yn garreg filltir arwyddocaol yn natblygiad Cylchffordd Cymru,” meddai Michael Carrick, Prif Weithredwr Cylchffordd Cymru.
“Mae MotoGP yn uchafbwynt rasio beiciau modur yn fyd-eang ac mae’r disgwyliadau o fewn y gyfres a miliynau o’r cefnogwyr ar draws y byd yn ddigwyddiad gwych sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau eiconig.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at gyrraedd y disgwyliadau hynny pan fyddwn yn croesawu MotoGP i Gymru o 2016 ac ry’n ni’n gweithio’n agos gyda Dorna a FL, corff llywodraethol MotoGP, gydag ystyriaeth i rownd 2015 Prydeinig o Bencampwriaeth y Byd.”