Tarodd Jacques Rudolph 111 neithiwr wrth i Forgannwg guro Gwlad yr Haf o 95 rhediad o dan system Duckworth-Lewis ar gae Taunton.

Cafodd Rudolph ei gefnogi gan Chris Cooke (60) a Murray Goodwin (62) wrth i’r Cymry gyrraedd 289-6 yn eu batiad nhw, wedi iddyn nhw gael eu gwahodd i fatio’n gyntaf.

Roedd un newid yn yr unarddeg a gollodd yn erbyn Swydd Durham nos Wener diwethaf, wrth i’r troellwr Andrew Salter gymryd lle David Lloyd.

Dechreuodd batiad Morgannwg yn wael wrth i Jim Allenby golli’i wiced yn yr ail belawd, wedi’i ddal gan Peter Trego yn y slip oddi ar fowlio Lewis Gregory.

Ond dechreuodd Rudolph glatsio wrth i Wlad yr Haf geisio atal y llif o rediadau yn y cyfnodau clatsio.

Daeth y ddau gyfnod clatsio cyntaf i ben wrth i Forgannwg gyrraedd 44-1, ond buan y collodd Will Bragg ei wiced, wedi’i ddal gan Marcus Trescothick yn y slip oddi ar fowlio Trego.

Cyrhaeddodd Rudolph ei hanner cant oddi ar 64 o belenni, a pharhau wnaeth y clatsio wedi hynny, wrth i Murray Goodwin ymuno yn yr hwyl.

Adeiladodd Rudolph a Goodwin bartneriaeth o gant cyn i Goodwin gyrraedd ei hanner cant oddi ar 58 o belenni ond collodd Goodwin ei wiced yn fuan wedyn.

Clatsio oedd meddylfryd y batiwr newydd, Chris Cooke hefyd ac fe benderfynodd Morgannwg gymryd yr ail gyfnod clatsio wedi iddyn nhw gyrraedd 182-3 ym mhelawd rhif 36.

Cyrhaeddodd Morgannwg y 200 ddwy belawd yn ddiweddarach cyn i’r tywydd ddechrau gwaethygu.

Daeth y cyfnod clatsio i ben wrth i Forgannwg gyrraedd 221-3, ond buan y daeth y glaw ac fe gafodd y chwaraewyr eu gorfodi i adael y cae.

Ond gwnaeth y toriad les i Rudolph wrth iddo gyrraedd ei ganred bron yn syth oddi ar 121 o belenni.

Wedi i Rudolph ymadael, cyrhaeddodd Cooke ei hanner cant oddi ar 37 o belenni, ond wnaeth y batiwr newydd, Graham Wagg ddim para’n hir cyn canfod dwylo’r maeswr ar y ffin oddi ar fowlio Gregory.

Collodd Cooke a Salter eu wicedi’n gyflym wrth i Forgannwg orffen y batiad ar 289-6 oddi ar 47 o belawdau, gan osod nod o 303 i Wlad yr Haf ennill o dan system Duckworth-Lewis.

Dechreuodd Gwlad yr Haf yn gadarn, wrth i Nick Compton a Marcus Trescothick taro ergydion di-ri i’r ffin oddi ar Michael Hogan a Graham Wagg, ac roedd Gwlad yr Haf yn 40-0 wedi chwe phelawd.

Ond daeth llwyddiant i Hogan yn y seithfed wrth i’r wicedwr Mark Wallace ddal Compton, a’r clatsiwr Peter Trego ddaeth i’r llain wedyn.

Tarodd bedwar oddi ar James Harris cyn i Trescothick gael ei fowlio gan Hogan gyda’r cyfanswm yn 47.

Collodd Colin Ingram ei wiced yntau gyda’r cyfanswm yn 69 ac roedd Trego’n ymddangos yn rhwystredig y pen anghywir i’r llain.

Cipiodd Wagg bedwaredd wiced Morgannwg gyda’r cyfanswm yn 84 cyn i Trego ac Alex Barrow arwain y sir i’w 100.

Ond dychwelodd Trego i’r pafiliwn yn fuan wedyn gyda’r cyfanswm yn 108, wedi’i ddilyn gan Lewis Gregory, oedd a’i goes o flaen y wiced gyda’r cyfanswm bellach yn 119-6.

Trodd 119-6 yn 148-7 wrth i Barrow ddarganfod dwylo’r eilydd Gareth Rees oedd wedi plymio i’r ochr i gipio’r daliad.

Daeth cyfres o ergydion i’r ffin unwaith eto wrth i Johann Myburgh a Tim Groenewald geisio rhoi pwysau ar Forgannwg ac fe gymeron nhw’r ail gyfnod clatsio gyda’r cyfanswm yn 165-7.

Ond aflwyddiannus fu hwnnw wrth i Wagg ddal Myburgh oddi ar fowlio Harris.

Tarodd Alfonso Thomas chwech oddi ar fowlio Dean Cosker yn fuan wedyn, cyn taro pedwar oddi ar Harris, ond daeth ei fatiad i ben wedi iddo gael ei ddal gan Wagg yng nghanol-wiced.

Tarodd Groenewald chwech a phedwar oddi ar Allenby, cyn i’r bowliwr ollwng daliad, ond cipiodd Hogan wiced Jack Leach i gipio’r fuddugoliaeth i Forgannwg o 95 o rediadau.

Yn dilyn yr ornest yn erbyn Swydd Durham nos Wener diwethaf, mae’n bosib y bydd Morgannwg yn colli pwyntiau am gynhyrchu llain annigonol.

Mae’r arolygwyr wedi bod yn Stadiwm Swalec heddiw ac mae disgwyl penderfyniad yn y man.