Jess Fishlock
Mae Jess Fishlock yn ôl yng ngharfan Cymru ar gyfer eu gornest fawr yn erbyn Lloegr yr wythnos nesaf wrth i’r tîm geisio cyrraedd Cwpan y Byd.
Fe fydd y merched yn herio’r hen elyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau nesaf, 21 Awst, â Chymru angen ennill i gael unrhyw obaith o orffen ar frig y grŵp.
Dim ond enillydd y grŵp sydd yn ennill eu lle yn awtomatig ar gyfer y twrnament terfynol yng Nghanada yn 2015, ac mae Lloegr bum pwynt o flaen Cymru sydd yn ail gyda dwy gêm i fynd.
Mae’n golygu mai cyrraedd y gemau ail gyfle yw’r gorau y gall merched Cymru obeithio am yn realistig, gan y byddai dal rhaid i Loegr golli i Montenegro hyd yn oed os yw Cymru’n eu curo’r wythnos nesaf.
Byddai’n rhaid i Gymru hefyd ennill yn yr Wcráin, y tîm a gipiodd bwynt pan ddaethon nhw draw i Gymru’n gynharach yn yr ymgyrch, er mwyn pasio Lloegr ar y brig.
Pe na bai Cymru’n gorffen ar frig y grŵp fe allen nhw dal gyrraedd Cwpan y Byd drwy’r gemau ail gyfle, gyda phedwar o’r saith tîm sydd yn gorffen yn ail yn cael y cyfle i wneud hynny.
Fel mae’n sefyll mae Cymru’n bumed uchaf o ran pwyntiau o’i gymharu â’r timau eraill sydd yn ail yn eu grwpiau, ond gall hynny newid dros y ddwy gêm nesaf.
Carfan Cymru
Sophie Dando (Caerdydd), Nicola Davies (Reading), Rhian Cleverley (dim clwb), Nicola Cousins (Yeovil), Kylie Davies (Millwall), Loren Dykes (Academi Bryste), Carys Hawkins (Fylkir), Sophie Ingle (Academi Bryste), Helen Bleazard (Yeovil), Georgia Evans (Academi Bryste), Jessica Fishlock (Seattle Reign), Josie Green (Watford), Michelle Green (Caerdydd), Angharad James (Academi Bryste), Sam Quayle (Academi Bryste), Sarah Wiltshire (Yeovil), Natasha Harding (Academi Bryste), Hannah Keryakoplis (Birmingham), Megan Wynne (Watford), Nadia Lawrence (IBV Vestmannaeyjar)