Ole Gunnar Solskjaer yn ychwanegu at ei garfan
Mae Caerdydd ar fin arwyddo’r asgellwr Anthony Pilkington o Norwich wrth i Ole Gunnar Solskjaer barhau i ychwanegu at ei garfan.

Yn ôl adroddiadau heddiw mae’r ddau glwb wedi dod i gytundeb i drosglwyddo Pilkington, er nad oes cadarnhad eto beth fydd y ffi.

Bydd Pilkington yn ychwanegu at opsiynau Caerdydd ar yr asgell, yn enwedig gan nad yw Craig Noone yn ffit ar hyn o bryd.

Roedd sôn nôl ym mis Ionawr fod Abertawe wedi dangos diddordeb yn Pilkington, a’u bod yn barod i dalu hyd at £3m amdano.

Yn y cyfamser mae’r clwb wedi cadarnhau fod yr ymosodwr Joe Mason wedi ymuno â Bolton ar fenthyg, a hynny am y trydydd tro.

Fe ddechreuodd Caerdydd eu tymor yn y Bencampwriaeth gyda gêm gyfartal i ffwrdd yn erbyn Blackburn, ac fe fyddan nhw’n chwarae eu gêm gartref gyntaf yn y gynghrair ddydd Sadwrn yn erbyn Huddersfield.

Cyn hynny, fodd bynnag, maen nhw’n teithio i Coventry heno mewn gêm yn rownd gyntaf Cwpan Capital One.