Yr Elyrch yn barod i herio Man U
Mae golwr newydd Abertawe, Lukasz Fabianski wedi dweud nad yw ei dîm yn ofni herio Man U ar ddiwrnod cyntaf y tymor newydd ddydd Sadwrn.

Bydd yr Elyrch yn teithio i Old Trafford i herio tîm sydd wedi’u harwain gan y rheolwr newydd, Louis van Gaal.

Dywedodd Fabianski wrth wefan y clwb: “Dw i ddim yn siwr beth maen nhw’n paratoi ar ei gyfer e.

“Fydd hi ddim yn gêm hawdd iddyn nhw.

“Rydyn ni’n mynd i roi o’n gorau a cheisio’i hennill hi.

“Byddwn ni wedi paratoi’n dda ar gyfer y gêm ac mi fydd hi’n ddiddorol iawn.

“Does dim diben ofni’r gwrthwynebwyr, yn enwedig gan fod Abertawe wedi’u curo nhw yng Nghwpan yr FA (y tymor diwethaf) felly ddylen ni ddim ofni unrhyw beth.

“Maen nhw’n glwb mawr, ond rydyn ni’n mynd yno i geisio ennill pwyntiau – dyna ein nod ni.

“Dydyn ni ddim yn mynd i orwedd a gadael iddyn nhw chwarae.

“Byddwn ni’n mynd amdani hefyd a gobeithio y bydd hi’n gêm dda gyda chanlyniad da i ni.”

Mae disgwyl i Fabianski ddechrau’r ornest yn dilyn ei drosglwyddiad o Arsenal yn ystod yr haf.

Mae’n cymryd lle Michel Vorm, sydd bellach wedi symud i Spurs, ac fe fydd Gerhard Tremmel yn gorfod bodloni ar le ar y fainc am y tro.

Ond mae Fabianski yn disgwyl brwydr am grys y golwr.

“Allwch chi ddim wir dweud bod rhywun wedi rhoi crys rhif un i fi a dyna ni.

“Mae ’na gystadleuaeth yn Abertawe ac mae’n rhaid i fi frwydro amdano fe.

“Rydyn ni’n cystadlu am le, rydyn ni’n gwthio’n gilydd ac rwy’n gobeithio mai fi fydd y golwr sy’n dechrau ac y bydda i’n chwarae’n dda ac yn helpu’r tîm.”