Nasir Malik
Mae’r achos llys yn erbyn cyn-Brif Weithredwr elusen Awema, Nasir Malik wedi dechrau yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Mae Malik yn wynebu tri chyhuddiad o dwyll, ac mae’r erlyniad yn honni ei fod e wedi defnyddio arian o gyfrif banc Awema i dalu dyledion roedd wedi’u casglu trwy gerdyn credyd.
Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Clywodd y llys fod Malik wedi gofyn i’r elusen am siec wag, gan honni ei fod yn rhoi trefn ar ei dreuliau.
Dywedodd yr erlynydd, Jim Davis fod Malik wedi gofyn am gael derbyn ei gyflog yn gynt nag arfer.
Wedi iddo ddweud wrtho fod angen caniatâd y bwrdd rheoli i wneud penderfyniad, clywodd y llys fod cyfarwyddwr cyllid yr elusen, Saquib Zia wedi rhoi siec i Malik.
Defnyddiodd Malik y siec, yn ôl yr erlynydd, i dalu bil gwerth £2,500 ar ei gerdyn credyd.
Clywodd y llys fod Malik wedi defnyddio siec arall bedwar mis yn ddiweddarach i drosglwyddo mwy na £9,000 i’w gyfrif personol er mwyn talu bil cerdyn credyd arall.
Yn ogystal, clywodd y llys fod Malik wedi defnyddio cyfrif banc y cwmni i dalu am yswiriant personol yn enw ei wraig, Bronwen Malik, gan obeithio derbyn £120,000 pe bai Malik yn marw.
Cafodd taliadau misol o £89 eu talu o 2008 hyd at 2012 ar gyfer yr yswiriant.
Daeth elusen Awema i ben yn 2012 yn dilyn honiadau o gamreolaeth ariannol.
Mae’r achos yn parhau.