Cafodd lleidr ei ddal ar ôl i’w DNA gael ei ddarganfod ar gan o lager oedd o wedi ei adael yn y fflat yr oedd o’n ceisio’i ladrata.

Cyhoeddodd Heddlu De Cymru heddiw fod Steven Craig Vonk wedi torri mewn i fflat ar y stryd ble mae’n byw yn Abertawe fis diwethaf.

Ond roedd perchennog y fflat wedi tarfu ar y lleidr 39 mlwydd oed ac fe wnaeth o redeg i ffwrdd yn waglaw gan adael ei ddiod ar ôl.

Yn ddiweddarach, dangosodd profion fforensig fod y can o lager yn cynnwys proffil DNA llawn Steven Craig Vonk.

Ymddangosodd Vonk, o Heol St Albans, Brynmill, o flaen Llys y Goron Abertawe a chafodd ei ddedfrydu i 876 diwrnod yn y carchar am fyrgleriaeth a 12 wythnos arall o ganlyniad i ddedfryd ohiriedig flaenorol.