Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi cael eu cyhuddo o fod a “rhywbeth i’w guddio” dros effaith ffracio ar ardaloedd ble mae hynny’n digwydd.

Daw’r cyhuddiad wedi i ddogfen fewnol gan Lywodraeth y DU gael ei rhyddhau ar ôl cael ei hail-olygu’n helaeth.

Dywedodd AS y Blaid Werdd, Caroline Lucas, y dylai’r Llywodraeth fod yn “onest gyda’r cyhoedd ym Mhrydain” am effaith y broses ddadleuol o dyllu am nwy siâl.

Roedd y ddogfen, sydd a’r teitl ‘Nwy Siâl: Ei Effaith ar Economi Wledig’ wedi cael ei rhyddhau mewn ymateb i gais o dan ddeddfau gwybodaeth amgylcheddol.

Ond, roedd sawl adran allweddol wedi cael eu  golygu’n helaeth pan gafodd ei gyhoeddi. Roedd y rhannau hynny yn cynnwys asesiad o effeithiau ffracio ar brisiau tai a gwasanaethau lleol.

Nawr, mae Caroline Lucas yn galw am i’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn llawn.

Cafodd y ddogfen fewnol wreiddiol ei rhannu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gydag Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn edrych ar effaith bosibl datblygiad nwy siâl ar yr economi wledig.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at adroddiad o 2010 am y sefyllfa yn Tecsas oedd yn dangos bod eiddo sydd werth mwy na $250,000 (£149,000), sydd o fewn 1,000 troedfedd o ffynnon ffracio wedi gweld gwerth yr eiddo’n gostwng rhwng 3% a 14%.