Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau ‘r gwaith ar gynllun llifogydd ym Mhenrhyn Gŵyr, gwerth £1.6 miliwn, yr wythnos hon.

Bydd yn lleihau perygl llifogydd i 127 o gartrefi a 15 o fusnesau.

Bydd y gwaith ym Mhenclawdd yn codi lefel y maes parcio gyferbyn â Swyddfa’r Post a bydd muriau llifogydd newydd yn cael eu hadeiladu ar hyd Rhes Glanmor a’r West End, ar ochr yr aber.

Yn ôl CNC, mae pentref Penclawdd mewn perygl o ddioddef llifogydd llanwol yn sgil Aber Afon Llwchwr. 1981 oedd y tro diwethaf i lifogydd mawr ddigwydd yno, ond effeithiodd llifogydd ar nifer o adeiladau yno fis Ionawr eleni.

Ar ôl cynnal archwiliadau ac ymgynghori â thrigolion yr ardal, mae CNC wedi creu cynllun ar gyfer lleihau’r perygl i safon dderbyniol o un siawns mewn 200 o weld llifogydd yn digwydd yno mewn unrhyw flwyddyn.

‘Effaith ddinistriol’

“Dros y gaeaf ac yn ystod y Flwyddyn Newydd mi welon ni’r effaith ddinistriol y gall llifogydd arfordirol ei gael ar ein cymunedau,” meddai Paul Isaac, rheolwr y prosiect ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae’n brofiad anodd sy’n gallu dod â’r gymuned gyfan i stop.

“Mae’r cynllun yma’n rhan bwysig o’n hymrwymiad i amddiffyn pobl, eu cartrefi a’u gweithleoedd rhag perygl cynyddol llifogydd.”

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl iddo fod wedi ei gwblhau cyn y Nadolig.