Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert, heddiw wedi ail-gyhoeddi bod cymorth dros y ffôn ar gael i ddisgyblion sy’n poeni am eu canlyniadau arholiad Lefel A a TGAU ac eraill.
Mae modd i ddisgyblion dan 25 oed ffonio gwasanaeth Meic 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i dderbyn cyngor a gwybodaeth.
Penderfynodd Llywodraeth Cymru gychwyn ddarparu’r gwasanaeth ffôn ym mis Ionawr, ac ers hynny mae mwy nag 20,000 o blant a phobol ifanc wedi cysylltu â Meic. Ac mae disgwyl i fwy gysylltu o fewn y pythefnos nesaf gan fod diwrnod canlyniadau TGAU a Lefel A yn agosáu.
Mae’r Llywodraeth yn rhoi £850,000 o gymorth i’r gwasanaeth.
‘Straen’
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae aros am ganlyniadau arholiad yn gallu achosi llawer o straen i bobol ifanc.
“Mae’n bwysig eu bod yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, ac os ydyn nhw am drafod eu pryderon a chael cymorth, bod ganddyn nhw rywle i droi lle maen nhw’n gallu siarad yn agored, yn gyfrinachol ac yn ddienw.
“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Meic wedi gwneud byd o wahaniaeth wrth helpu pobol ifanc sydd wedi profi’r un fath o emosiynau a theimladau. Mae Meic yn rhoi cyfle iddyn nhw leisio eu pryderon ac yn sicrhau bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.”