Huw Warren yn egluro'i gadwyn ganeuon
Fe ddaeth breuddwyd 35 mlynedd i fwcwl ddoe, wrth i’r cerddor Huw Warren berfformio cadwyn o ganeuon jazz am Dylan Thomas.

A hithau’n 100 mlwyddiant geni’r bardd, roedd wedi ei gomisiynu i greu gwaith newydd ac fe gafwyd y perfformiad cynta’ erioed yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu.

Roedd Do Not Go Gentle … yn cynnwys caneuon wedi eu hysbrydoli gan rai o gerddi enwoca’r bardd ac yn cynnwys llais Dylan Thomas ei hun yn darllen rhai ohonyn nhw, gyda cherddoriaeth jazz yn gyfeiliant.

Ceisio a methu

Fe ddatgelodd Huw Warren, artist preswyl yr Ŵyl a phianydd sy’n dod o Abertawe ei hun, ei fod wedi ceisio a methu sgrifennu am Dylan Thomas lawer gwaith o’r blaen.

“A finnau’n dod o Abertawe, roedd hwn yn brosiect i freuddwydio amdano,” meddai.”Dw i wedi bod yn meddwl ac yn breuddwydio am wneud rhywbeth am Dylan Thomas ers 35 o flynyddoedd.

“Ro’n i wedi ceisio gosod rhai o’i gerddi o ond y broblem yw fod ei gerddi mor gerddorol ynddyn nhw eu hunain, roedd fel gosod cerddoriaeth ar gerddoriath.”

Fe gafodd y gadwyn ganeuon groeso brwd gan gynulleidfa o tua 300 yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, gyda darnau wedi eu hysbrydoli gan y cerddi  a rhai – fel Ugly, lovely town a Cwmdonkin ParkBoogie gan y ddinas ac ardal geni Dylan Thomas.