Yn ôl adroddiadau cafodd bws gwennol sy’n cludo Eisteddfodwyr o gigs Cymdeithas yr Iaith ei stopio gan swyddogion o’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) nos Iau, yn sgil honiadau fod y bws yn cludo teithwyr yn anghyfreithlon.

Roedd y bws yn dychwelyd i’r maes carafanau  ar ôl gig Cymdeithas yr Iaith yn y Thomas Arms, yn Llanelli.

Yn ôl tyst ar Faes yr Eisteddfod, cafodd y bws ei stopio, gyda’r gyrrwr yn cael ei holi am ei drwydded cludo teithwyr yn ogystal â’r teithwyr yn cael eu holi  ynglŷn â faint roedden nhw  wedi ei dalu am ddefnyddio’r bws.

Mae’n debyg bod ffrae wedi codi rhwng gyrwyr tacsis lleol ynglŷn â’r trefniadau cludo eisteddfodwyr, gyda’r tacsis yn methu cael mynediad at y maes carafanau. Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu gwasanaeth bws o’i nosweithiau yn y dref i’r maes carafanau, ond mae hynny wedi codi  gwrychyn y gwasanaethau tacsis lleol – gyda chwynion swyddogol yn cael eu gwneud i’r DVLA.

Dywed Cymdeithas yr Iaith  eu bod nhw erbyn hyn wedi trefnu bws gyda chymorth gyrwyr tacsis lleol – gan geisio cefnogi’r gyrwyr lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith : “Mae ein gigs yng nghanol tref Llanelli yn dod â budd sylweddol i’r gymuned a busnesau lleol; rydyn ni’n cydymdeimlo â chwyn y gyrwyr tacsis, sy’n rhwystredig nad ydynt yn cael mynediad at y maes carafanau.”