Maes yr Eisteddfod
Ddoe oedd y diwrnod prysuraf ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar hyd yma’r wythnos hon.

Daeth 20,384 o ymwelwyr i’r Brifwyl yn Llanelli ddydd Gwener. Y llynedd daeth 23,056 drwy’r giatiau ar y dydd Gwener yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych.

Wrth i’r Eisteddfod dynnu tua’i therfyn bydd y cystadlu’n parhau yn y Pafiliwn heddiw.

Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd y corau meibion, Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn – Rhuban Glas y llefarwyr, Cystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis i’r cantorion gwerin, a Thlws Coffa Lois Blake i’r dawnswyr.

Heno bydd enillwyr y cystadlaethau unawdau lleisiol yn cystadlu yng Ngwobr Goffa David Ellis – y Rhuban Glas a chyhoeddi pwy yw Côr yr Ŵyl eleni.